OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 523 (Cy. 64)
GWASANAETHAU TÂN AC ACHUB, CYMRU
PENSIYNAU, CYMRU
Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Cyfraniadau) (Diwygio) 2014
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Cynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) (“y Cynllun”) sydd wedi ei nodi yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 (O.S. 2007/1072 (Cy.110)), i fod yn effeithiol o 1 Ebrill 2014.
Mae erthygl 3 yn diwygio'r Cynllun er mwyn darparu ar gyfer cyfradd wahanol o gyfraniadau pensiwn sy'n daladwy gan aelodau'r Cynllun sy'n cynyddu yn ôl swm y tâl pensiynadwy y mae'r aelod yn ei dderbyn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi gan y Gangen Tân a’r Lluoedd Arfog, Llywodraeth Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ neu drwy ffonio 0300 062 8221.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 523 (Cy. 64)
GWASANAETHAU TÂN AC ACHUB, CYMRU
PENSIYNAU, CYMRU
Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Cyfraniadau) (Diwygio) 2014
Gwnaed 4 Mawrth 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 7 Mawrth 2014
Yn dod i rym 1 Ebrill 2014
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 34, 60 a 62 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004([1]).
Yn unol ag adran 34(5) o'r Ddeddf honno, ymgynghorodd Gweinidogion Cymru â'r personau hynny a oedd yn briodol, yn eu barn hwy, cyn gwneud y Gorchymyn.
Enwi a chychwyn
1.—(1)(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllun Pensiwn y
Diffoddwyr Tân (Cymru) (Cyfraniadau) (Diwygio)
2014.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2014.
Diwygio Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007
2. Mae Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007([2]) (lle y mae Cynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) wedi ei nodi), wedi cael ei diwygio yn unol ag erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn.
3. Yn lle'r Tabl ym mharagraff 5 o Atodiad A1 rhodder y Tabl canlynol—
“Tâl pensiynadwy |
Y gyfradd gyfrannu o 1 Ebrill 2014 ymlaen |
Hyd at a chan gynnwys £15,000 |
8.5% o'r tâl pensiynadwy |
Mwy na £15,000 a hyd at a chan gynnwys £21,000 |
9.4% o'r tâl pensiynadwy |
Mwy na £21,000 a hyd at a chan gynnwys £30,000 |
10.4% o'r tâl pensiynadwy |
Mwy na £30,000 a hyd at a chan gynnwys £40,000 |
10.9% o'r tâl pensiynadwy |
Mwy na £40,000 a hyd at a chan gynnwys £50,000 |
11.2% o'r tâl pensiynadwy |
Mwy na £50,000 a hyd at a chan gynnwys £60,000 |
11.3% o'r tâl pensiynadwy |
Mwy na £60,000 a hyd at a chan gynnwys £100,000 |
11.7% o'r tâl pensiynadwy |
Mwy na £100,000 a hyd at a chan gynnwys £120,000 |
12.1% o'r tâl pensiynadwy |
Mwy na £120,000 |
12.5% o'r tâl pensiynadwy.” |
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
4 Mawrth 2014
([1]) 2004 p.21. Diwygiwyd adran 34 gan adran 27 o Ddeddf Pensiwn y Gwasanaeth Cyhoeddus 2013 (p.25), a pharagraff 27 o Atodlen 8 iddi, ond pan wnaed y Gorchymyn hwn nid oedd y diwygiad eto mewn grym. Diwygiwyd adrannau 60 a 62 gan adrannau 9 a 10 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p.20). Cafodd y pwerau o dan adrannau 34 a 60 eu breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, yn rhinwedd adran 62 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. Trosglwyddwyd y pwerau i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).